24. “Ti wedi gwneud Israel yn bobl i ti dy hun am byth. Rwyt ti, ARGLWYDD, wedi dod yn Dduw iddyn nhw.
25. Felly, ARGLWYDD Dduw, tyrd a'r addewid yma amdana i a'm teulu yn wir. Gwna fel rwyt ti wedi addo.
26. Wedyn byddi'n enwog am byth. Bydd pobl yn dweud, ‘yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy Duw Israel.’ A bydd llinach dy was Dafydd yn gadarn fel y graig,
27. am dy fod ti, yr ARGLWYDD holl-bwerus, Duw Israel, wedi addo y byddi'n adeiladu tŷ i mi. A dyna pam mae dy was yn meiddio gweddïo fel hyn arnat ti.