2 Samuel 7:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. Roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi heddwch i'r wlad, ac roedd y Brenin Dafydd wedi setlo i lawr yn ei balas.

2. A dyma'r brenin yn dweud wrth y proffwyd Nathan, “Edrych! Dw i'n byw yma mewn palas crand o goed cedrwydd, tra mae Arch Duw yn dal mewn pabell.”

3. A dyma Nathan yn ateb, “Mae'r ARGLWYDD gyda ti. Gwna beth bynnag wyt ti'n feddwl sy'n iawn.”

4. Ond y noson honno dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges i Nathan,

5. “Dos i ddweud wrth fy ngwas Dafydd, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: Wyt ti'n meddwl dy fod ti'n mynd i adeiladu teml i mi fyw ynddi?

6. Dw i erioed wedi byw mewn teml, o'r diwrnod pan ddes i â phobl Israel allan o'r Aifft hyd heddiw. Dw i wedi bod yn mynd o le i le mewn pabell, sef tabernacl.

2 Samuel 7