2 Samuel 4:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Pan glywodd Ish-bosheth, mab Saul, fod Abner wedi ei ladd yn Hebron roedd wedi anobeithio'n llwyr, ac roedd Israel gyfan wedi dychryn.

2. Roedd gan Ish-bosheth ddau ddyn yn gapteiniaid yn ei fyddin, Baana a Rechab. Roedden nhw'n feibion i Rimmon o Beëroth ac yn perthyn i lwyth Benjamin. (Roedd Beëroth yn cael ei gyfri fel rhan o Benjamin.

3. Roedd pobl wreiddiol Beëroth wedi ffoi i Gittaïm, ac maen nhw'n dal i fyw yno hyd heddiw fel mewnfudwyr.)

4. Roedd gan Jonathan, mab Saul, fab o'r enw Meffibosheth oedd yn gloff. Roedd e'n bump oed pan ddaeth y newydd o Jesreel fod Saul a Jonathan wedi eu lladd. Dyma ei nyrs yn gafael ynddo i ffoi. Ond wrth iddi ruthro dyma fe'n cwympo, a dyna pryd aeth e'n gloff.

5. Dyma Rechab a Baana, meibion Rimmon o Beëroth, yn mynd i dŷ Ish-bosheth. Roedd hi'n ganol dydd a'r haul ar ei boethaf, ac roedd Ish-bosheth yn gorffwys.

6. Aethon nhw i mewn i'w dŷ gan esgus eu bod yn nôl gwenith, a dyma nhw'n ei drywanu yn ei fol. Wedyn dyma'r ddau yn dianc.

7. Roedden nhw wedi mynd i'r tŷ tra roedd Ish-bosheth yn ei ystafell, yn gorffwys ar ei wely. Ar ôl ei drywanu a'i ladd, dyma nhw'n torri ei ben i ffwrdd. Yna cymryd y pen, a teithio drwy'r nos ar hyd ffordd yr Araba.

8. Dyma nhw'n dod â phen Ish-bosheth i'r brenin Dafydd yn Hebron, a dweud wrtho, “Dyma ben Ish-bosheth, mab Saul, dy elyn oedd yn ceisio dy ladd di. Heddiw mae'r ARGLWYDD wedi dial ar Saul a'i deulu ar ran ein meistr y brenin.”

2 Samuel 4