2 Samuel 3:33-39 beibl.net 2015 (BNET)

33. Yna dyma'r brenin yn canu cân i alaru am Abner:“Oedd rhaid i Abner farw fel ffŵl?

34. Doeddet ddim wedi dy glymu;doedd dy draed ddim mewn cyffion;Ond syrthiaist fel dyn wedi ei ladd gan rai drwg.”A dyma pawb yn wylo drosto eto.

35. Roedd ei ddynion yn ceisio perswadio Dafydd i fwyta rhywbeth cyn iddi nosi. Ond dyma Dafydd yn mynd ar ei lw. “Boed i Dduw ddial arna i os gwna i fwyta darn o fara neu unrhyw beth arall cyn i'r haul fachlud!”

36. Roedd hyn wedi plesio pobl yn fawr. Yn wir roedd popeth roedd y brenin yn ei wneud yn eu plesio nhw.

37. Roedd pawb, gan gynnwys pobl Israel, yn gweld fod gan y brenin ddim byd i'w wneud â llofruddiaeth Abner fab Ner.

38. A dyma'r brenin yn dweud wrth ei swyddogion, “Ydych chi'n sylweddoli fod arweinydd milwrol mawr wedi marw yn Israel heddiw?

39. Er fy mod i wedi cael fy ngwneud yn frenin, dw i wedi bod yn ddi-asgwrn-cefn heddiw. Mae'r dynion yma, meibion Serwia, yn rhy wyllt i mi ddelio hefo nhw. Boed i'r ARGLWYDD dalu yn ôl i'r un sydd wedi gwneud y drwg yma!”

2 Samuel 3