26. A dyma Joab yn mynd allan oddi wrth Dafydd ac anfon dynion gyda neges i alw Abner yn ôl. Daeth yn ôl gyda nhw o ffynnon Sira. (Doedd Dafydd yn gwybod dim am y peth.)
27. Wrth i Abner gyrraedd Hebron dyma Joab yn mynd ag e o'r neilltu wrth y giât, fel petai am gael gair cyfrinachol gydag e. Ond yno dyma fe'n trywanu Abner yn ei fol gyda dagr, a'i ladd. Gwnaeth hyn i ddial arno am ladd ei frawd Asahel.
28. Dim ond wedyn y clywodd Dafydd beth oedd wedi digwydd. “Dw i a'm pobl yn ddieuog o flaen yr ARGLWYDD am ladd Abner fab Ner,” meddai.
29. “Ar Joab mae'r bai. Caiff e a'i deulu dalu'r pris! Bydd rhywun o deulu Joab bob amser yn diodde o glefyd heintus ar ei bidyn, neu wahanglwyf, ar faglau, wedi ei daro gan gleddyf, neu heb ddigon o fwyd!”
30. (Roedd Joab a'i frawd Abishai wedi llofruddio Abner am ei fod e wedi lladd eu brawd Asahel yn y frwydr yn Gibeon.)
31. Dyma Dafydd yn dweud wrth Joab a phawb oedd gydag e, “Rhwygwch eich dillad, gwisgwch sachliain, a galaru o flaen corff Abner.” Cerddodd y brenin Dafydd ei hun tu ôl i'r arch,
32. a dyma nhw'n claddu Abner yn Hebron. Roedd y brenin yn crïo'n uchel wrth fedd Abner, a dyma bawb arall yn crïo hefyd.
33. Yna dyma'r brenin yn canu cân i alaru am Abner:“Oedd rhaid i Abner farw fel ffŵl?
34. Doeddet ddim wedi dy glymu;doedd dy draed ddim mewn cyffion;Ond syrthiaist fel dyn wedi ei ladd gan rai drwg.”A dyma pawb yn wylo drosto eto.
35. Roedd ei ddynion yn ceisio perswadio Dafydd i fwyta rhywbeth cyn iddi nosi. Ond dyma Dafydd yn mynd ar ei lw. “Boed i Dduw ddial arna i os gwna i fwyta darn o fara neu unrhyw beth arall cyn i'r haul fachlud!”
36. Roedd hyn wedi plesio pobl yn fawr. Yn wir roedd popeth roedd y brenin yn ei wneud yn eu plesio nhw.