2 Samuel 3:23-35 beibl.net 2015 (BNET)

23. Pan ddaeth Joab a'i filwyr yn ôl, clywodd fod Abner fab Ner wedi bod gyda'r brenin, a'i fod wedi gadael iddo fynd yn heddychlon.

24. Dyma Joab yn mynd at y brenin a dweud, “Beth wyt ti'n wneud? Mae Abner wedi bod yma gyda ti, a ti wedi gadael iddo fynd!

25. Ti'n gwybod sut un ydy Abner. Dod i ysbïo arnat ti oedd e! Ffeindio allan beth ydy dy symudiadau di, a beth wyt ti'n ei wneud!”

26. A dyma Joab yn mynd allan oddi wrth Dafydd ac anfon dynion gyda neges i alw Abner yn ôl. Daeth yn ôl gyda nhw o ffynnon Sira. (Doedd Dafydd yn gwybod dim am y peth.)

27. Wrth i Abner gyrraedd Hebron dyma Joab yn mynd ag e o'r neilltu wrth y giât, fel petai am gael gair cyfrinachol gydag e. Ond yno dyma fe'n trywanu Abner yn ei fol gyda dagr, a'i ladd. Gwnaeth hyn i ddial arno am ladd ei frawd Asahel.

28. Dim ond wedyn y clywodd Dafydd beth oedd wedi digwydd. “Dw i a'm pobl yn ddieuog o flaen yr ARGLWYDD am ladd Abner fab Ner,” meddai.

29. “Ar Joab mae'r bai. Caiff e a'i deulu dalu'r pris! Bydd rhywun o deulu Joab bob amser yn diodde o glefyd heintus ar ei bidyn, neu wahanglwyf, ar faglau, wedi ei daro gan gleddyf, neu heb ddigon o fwyd!”

30. (Roedd Joab a'i frawd Abishai wedi llofruddio Abner am ei fod e wedi lladd eu brawd Asahel yn y frwydr yn Gibeon.)

31. Dyma Dafydd yn dweud wrth Joab a phawb oedd gydag e, “Rhwygwch eich dillad, gwisgwch sachliain, a galaru o flaen corff Abner.” Cerddodd y brenin Dafydd ei hun tu ôl i'r arch,

32. a dyma nhw'n claddu Abner yn Hebron. Roedd y brenin yn crïo'n uchel wrth fedd Abner, a dyma bawb arall yn crïo hefyd.

33. Yna dyma'r brenin yn canu cân i alaru am Abner:“Oedd rhaid i Abner farw fel ffŵl?

34. Doeddet ddim wedi dy glymu;doedd dy draed ddim mewn cyffion;Ond syrthiaist fel dyn wedi ei ladd gan rai drwg.”A dyma pawb yn wylo drosto eto.

35. Roedd ei ddynion yn ceisio perswadio Dafydd i fwyta rhywbeth cyn iddi nosi. Ond dyma Dafydd yn mynd ar ei lw. “Boed i Dduw ddial arna i os gwna i fwyta darn o fara neu unrhyw beth arall cyn i'r haul fachlud!”

2 Samuel 3