2 Samuel 24:16-21 beibl.net 2015 (BNET)

16. Ond wrth i'r angel bwyntio ei fys at Jerwsalem i'w difa, dyma'r ARGLWYDD yn teimlo'n sori am y niwed oedd yn cael ei wneud. A dyma fe'n rhoi gorchymyn i'r angel oedd wrthi'n difa'r bobl, “Dyna ddigon! Stopia nawr!” (Ar y pryd roedd yr angel yn sefyll wrth ymyl llawr dyrnu Arafna y Jebwsiad.)

17. Pan welodd Dafydd yr angel yn taro'r bobl, dyma fe'n dweud, “ARGLWYDD, fi sydd wedi pechu a gwneud y drwg! Wnaeth y bobl ddiniwed yma ddim byd o'i le. Cosba fi a'm teulu!”

18. Y diwrnod hwnnw dyma Gad yn mynd at Dafydd a dweud wrtho, “Dos, a chodi allor i'r ARGLWYDD ar lawr dyrnu Arafna y Jebwsiad.”

19. Felly dyma Dafydd yn mynd a gwneud beth roedd yr ARGLWYDD wedi ei ddweud wrth Gad.

20. Pan welodd Arafna y brenin a'i weision yn dod ato, dyma fe'n mynd ato ac ymgrymu o'i flaen â'i wyneb ar lawr.

21. “Pam mae fy meistr, y brenin, wedi dod yma ata i?” meddai. A dyma Dafydd yn ateb, “I brynu dy lawr dyrnu di. Dw i eisiau codi allor i'r ARGLWYDD i stopio'r pla yma ladd y bobl.”

2 Samuel 24