17. Estynnodd i lawr o'r ucheldera gafael ynof fi;tynnodd fi allan o'r dŵr dwfn.
18. Achubodd fi o afael y gelyn ffyrnig –y rhai sy'n fy nghasáu oedd yn gryfach na mi.
19. Dyma nhw'n ymosod pan roeddwn mewn helbul,ond dyma'r ARGLWYDD yn fy helpu i.
20. Daeth â fi allan i ryddid!Achubodd fi am ei fod wrth ei fodd gyda mi.
21. Mae'r ARGLWYDD wedi bod yn deg â mi.Dw i wedi byw'n gyfiawn;mae fy nwylo'n lân,ac mae wedi rhoi fy ngwobr i mi.
22. Do, dw i wedi dilyn yr ARGLWYDD yn ffyddlon,heb droi cefn ar Dduw na gwneud drwg.
23. Dw i wedi cadw ei ddeddfau'n ofalus;dw i ddim wedi anwybyddu ei reolau.
24. Dw i wedi bod yn ddi-faiac yn ofalus i beidio pechu yn ei erbyn.
25. Mae'r ARGLWYDD wedi rhoi fy ngwobr i mi.Dw i wedi byw'n gyfiawn,ac mae e wedi gweld bod fy nwylo'n lân.
26. Ti'n ffyddlon i'r rhai sy'n ffyddlon,ac yn deg â'r rhai di-euog.
27. Mae'r rhai di-fai yn dy brofi'n ddi-fai,ond rwyt ti'n fwy craff na'r rhai anonest.
28. Ti'n achub pobl sy'n dioddef,ond yn torri crib y rhai balch.
29. Ie, ti ydy fy lamp i, o ARGLWYDD,ti'n rhoi golau i mi yn y tywyllwch.
30. Gyda ti gallaf ruthro allan i'r frwydr;gallaf neidio unrhyw wal gyda help fy Nuw!
31. Mae Duw yn gwneud beth sy'n iawn;mae'r ARGLWYDD yn dweud beth sy'n wir.Mae fel tarian yn amddiffyn pawb sy'n troi ato.
32. Oes duw arall ond yr ARGLWYDD?Oes craig arall ar wahân i'n Duw ni?
33. Fe ydy'r Duw sy'n fy amddiffyn â'i nerth –mae'n symud pob rhwystr o'm blaen.
34. Mae'n rhoi coesau fel carw i mi;fydda i byth yn llithro ar y creigiau uchel.
35. Dysgodd fi sut i ymladd –dw i'n gallu plygu bwa o bres!
36. Rwyt wedi fy amddiffyn fel tarian.Mae dy ofal wedi gwneud i mi lwyddo.