2 Samuel 19:15-25 beibl.net 2015 (BNET)

15. Felly dyma'r brenin yn cychwyn am yn ôl. Pan gyrhaeddodd Afon Iorddonen roedd pobl Jwda wedi dod i Gilgal i gyfarfod y brenin a'i hebrwng dros yr afon.

16. Roedd Shimei fab Gera (oedd o Bachwrîm, ac o lwyth Benjamin) wedi brysio i lawr hefyd, gyda phobl Jwda, i gyfarfod y Brenin Dafydd.

17. Roedd mil o ddynion o lwyth Benjamin gydag e, gan gynnwys Siba, gwas teulu Saul, a'i un deg pump mab a dau ddeg o weision. Roedden nhw wedi croesi'r dŵr i gyfarfod y brenin,

18. ac yn cario pethau yn ôl ac ymlaen dros y rhyd, er mwyn helpu teulu'r brenin drosodd ac ennill ei ffafr.Pan groesodd Shimei fab Gera yr afon, dyma fe'n taflu ei hun ar lawr o flaen y brenin,

19. a dweud wrtho, “Paid dal dig wrtho i, syr. Paid meddwl am beth wnes i y diwrnod hwnnw est ti allan o Jerwsalem. Plîs wnei di anghofio'r cwbl.

20. Dw i'n gwybod mod i wedi gwneud peth drwg. Dyna pam mai fi ydy'r cyntaf o deulu Joseff i gyd i ddod i dy gyfarfod di, fy meistr, y brenin.”

21. Dyma Abishai (mab Serwia) yn dweud, “Dylai Shimei farw! Roedd e'n rhegi yr un mae'r ARGLWYDD wedi ei eneinio'n frenin!”

22. Ond dyma Dafydd yn ei ateb, “Dydy e ddim o'ch busnes chi feibion Serwia! Pam dych chi'n tynnu'n groes i mi? Ddylai neb yn Israel gael ei ladd heddiw. Meddyliwch! Dw i'n frenin ar Israel unwaith eto.”

23. Yna dyma'r brenin yn addo ar lw i Shimei, “Fyddi di ddim yn cael dy ladd.”

24. Roedd Meffibosheth, ŵyr Saul, wedi dod i gyfarfod y brenin hefyd. Doedd e ddim wedi trin ei draed, trimio'i farf, na golchi ei ddillad o'r diwrnod wnaeth y brenin adael Jerwsalem nes iddo gyrraedd yn ôl yn saff.

25. Pan ddaeth e o Jerwsalem i gyfarfod y brenin, dyma'r brenin yn gofyn iddo, “Pam wnest ti ddim dod gyda mi, Meffibosheth?”

2 Samuel 19