2 Samuel 17:13-27 beibl.net 2015 (BNET)

13. A hyd yn oed os bydd e'n llwyddo i ddianc i ryw dref gaerog, bydd dynion Israel yn tynnu'r waliau i lawr gyda rhaffau a llusgo'r dref i lawr i'r ceunant. Fydd dim hyd yn oed un garreg fechan ar ôl!”

14. A dyma Absalom ac arweinwyr Israel yn ymateb, “Mae cyngor Chwshai yn well na chyngor Achitoffel.”A dyna sut gwnaeth yr ARGLWYDD ddrysu cyngor da Achitoffel er mwyn achosi helynt i Absalom.

15. Yna dyma Chwshai yn mynd i ddweud wrth Sadoc ac Abiathar yr offeiriaid beth oedd cyngor Achitoffel i Absalom, a beth oedd e ei hun wedi ei ddweud.

16. “Felly anfonwch neges ar frys at Dafydd i ddweud wrtho am beidio aros dros nos wrth rydau'r anialwch,” meddai. “Dwedwch wrtho am groesi'r Iorddonen yn syth, rhag ofn iddo fe a phawb sydd gydag e gael eu lladd.”

17. Roedd Jonathan ac Achimaats (meibion yr offeiriaid) yn aros yn En-rogel. Felly byddai morwyn yn mynd â negeseuon iddyn nhw, a hwythau wedyn yn mynd â'r negeseuon ymlaen i'r brenin Dafydd. (Doedd wiw iddyn nhw gael eu gweld yn mynd i mewn i Jerwsalem.)

18. Ond roedd rhyw fachgen ifanc wedi eu gweld nhw, a mynd i ddweud wrth Absalom. Felly dyma'r ddau yn gadael ar frys a mynd i dŷ rhyw ddyn yn Bachwrîm. Roedd gan hwnnw bydew yn ei fuarth, a dyma nhw'n dringo i lawr i'r pydew.

19. Yna dyma wraig y dyn yn rhoi gorchudd dros geg y pydew a taenu grawn drosto, fel bod dim i'w weld.

20. Pan ddaeth gweision Absalom at y tŷ dyma nhw'n gofyn i'r wraig, “Ble mae Achimaats a Jonathan?” A dyma hi'n ateb, “Maen nhw wedi croesi'r nant.” Aeth y dynion i chwilio amdanyn nhw, ond methu dod o hyd iddyn nhw. Felly dyma nhw'n mynd yn ôl i Jerwsalem.

21. Pan oedden nhw wedi mynd, dyma Achimaats a Jonathan yn dringo allan o'r pydew a mynd i roi'r neges i'r Brenin Dafydd. Dyma nhw'n dweud wrtho am frysio i groesi'r afon, a beth oedd cyngor Achitoffel yn ei erbyn.

22. Felly dyma Dafydd a'i fyddin yn croesi'r Afon Iorddonen. Roedden nhw i gyd wedi croesi cyn iddi wawrio y bore wedyn.

23. Pan welodd Achitoffel eu bod nhw wedi gwrthod ei gyngor e, dyma fe'n cyfrwyo'i asyn a mynd adre. Ar ôl rhoi trefn ar ei bethau, dyma fe'n crogi ei hun, a cafodd ei gladdu ym medd y teulu.

24. Roedd Dafydd wedi hen gyrraedd Machanaîm erbyn i Absalom a byddin Israel i gyd groesi'r Iorddonen.

25. Roedd Absalom wedi penodi Amasa yn bennaeth y fyddin yn lle Joab. (Roedd Amasa yn fab i Ismaeliad o'r enw Ithra ac Abigail, merch Nachash a chwaer Serwia, mam Joab.)

26. Felly dyma Absalom a byddin Israel yn codi gwersyll yn ardal Gilead.

27. Wrth i Dafydd gyrraedd Machanaîm, dyma Shobi fab Nachash o Rabba'r Ammoniaid, Machir fab Ammiel o Lo-debâr, a Barsilai o Gilead, o Rogelîm,

2 Samuel 17