9. A dyma'r brenin yn ei ateb, “Dos, a bendith arnat ti.” Felly dyma Absalom yn mynd i ffwrdd i Hebron.
10. Ond yna dyma Absalom yn anfon negeswyr cudd at lwythau Israel i gyd i ddweud, “Pan fyddwch chi'n clywed sŵn y corn hwrdd, cyhoeddwch: ‘Mae Absalom yn frenin yn Hebron.’”
11. Roedd dau gant o ddynion wedi mynd gydag Absalom o Jerwsalem. Roedden nhw wedi cael gwahoddiad ganddo, ac wedi mynd yn gwbl ddiniwed heb wybod dim am ei fwriadau.
12. Yna dyma Absalom yn cael Achitoffel, swyddog strategaeth Dafydd, i ddod ato o Gilo (y dre lle roedd e'n byw) i gyflwyno aberthau gydag e. Roedd y cynllwyn yn cryfhau, a nifer y bobl oedd o blaid Absalom yn cynyddu.
13. Daeth neges at Dafydd i ddweud fod pobl Israel wedi troi at Absalom.
14. Felly dyma Dafydd yn dweud wrth ei swyddogion yn Jerwsalem, “Rhaid i ni ffoi, neu wnawn ni ddim dianc oddi wrth Absalom. Dewch! Brysiwch i ni adael, rhag iddo'n dal ni a lladd pawb yn y ddinas!”
15. Dyma'r swyddogion yn ateb, “Bydd dy weision yn gwneud beth bynnag mae ein meistr, y brenin, yn ei benderfynu.”