1. Beth amser wedyn dyma Absalom yn paratoi cerbyd a cheffylau iddo'i hun, a pum deg o warchodwyr personol.
2. Byddai'n codi'n fore a sefyll ar ochr y ffordd wrth giât y ddinas. Pan oedd unrhyw un yn dod heibio gydag achos cyfreithiol i'w setlo gan y brenin, byddai Absalom yn ei alw draw. Byddai'n gofyn iddo, “Un o ble wyt ti?” Os oedd hwnnw'n dweud ei fod yn perthyn i un o lwythau Israel,
3. byddai Absalom yn dweud wrtho, “Gwranda, mae gen ti achos cryf, ond does gan y brenin neb ar gael i wrando arnat ti.”
4. Wedyn byddai'n ychwanegu, “Piti na fyddwn ni'n cael fy ngwneud yn farnwr yn y wlad yma! Byddai pawb oedd ag achos ganddo yn gallu dod ataf fi. Byddwn i'n gwneud yn siŵr eu bod nhw'n cael tegwch.”
5. Pan fyddai rhywun yn dod ato ac ymgrymu o'i flaen, byddai Absalom yn estyn ei law a'i gofleidio a rhoi cusan iddo.
6. Roedd yn gwneud hyn i bawb o Israel oedd yn dod i ofyn am gyfiawnder gan y brenin. A dyna sut wnaeth Absalom ennill cefnogaeth pobl Israel.
7. Ar ôl pedair blynedd, dyma Absalom yn gofyn i'r brenin, “Plîs ga i fynd i Hebron i gyflawni adduned wnes i i'r ARGLWYDD?
8. Pan oeddwn i'n byw yn Geshwr yn Syria, gwnes i addo ar lw: ‘Os bydd yr ARGLWYDD yn mynd â fi yn ôl i Jerwsalem, gwna i addoli'r ARGLWYDD yn Hebron.’”
9. A dyma'r brenin yn ei ateb, “Dos, a bendith arnat ti.” Felly dyma Absalom yn mynd i ffwrdd i Hebron.
10. Ond yna dyma Absalom yn anfon negeswyr cudd at lwythau Israel i gyd i ddweud, “Pan fyddwch chi'n clywed sŵn y corn hwrdd, cyhoeddwch: ‘Mae Absalom yn frenin yn Hebron.’”
11. Roedd dau gant o ddynion wedi mynd gydag Absalom o Jerwsalem. Roedden nhw wedi cael gwahoddiad ganddo, ac wedi mynd yn gwbl ddiniwed heb wybod dim am ei fwriadau.