2 Samuel 14:16-25 beibl.net 2015 (BNET)

16. Bydd y brenin yn siŵr o wrando. Bydd e'n fy achub i oddi wrth yr un sydd am fy ngyrru i a'm mab o'r etifeddiaeth roddodd Duw i ni.’

17. Ro'n i'n meddwl, ‘Bydd ateb y brenin yn dod â chysur i mi. Achos mae'r brenin fel angel Duw, yn gwybod y gwahaniaeth rhwng da a drwg.’ Boed i'r ARGLWYDD dy Dduw fod gyda ti!”

18. A dyma'r brenin Dafydd yn ateb, “Dw i eisiau gwybod un peth. Paid cuddio dim oddi wrtho i.” “Gofyn, syr,” meddai'r wraig.

19. “Ai Joab sydd wedi dy gael i wneud hyn?” meddai. A dyma'r wraig yn ateb, “Ie, alla i ddim gwadu'r peth syr. Joab drefnodd y cwbl, a dweud wrtho i beth i'w ddweud.

20. Roedd e eisiau i ti edrych ar y sefyllfa o safbwynt gwahanol. Ond rwyt ti, syr, fel angel Dduw. Ti'n deall popeth sy'n digwydd yn y wlad.”

21. Yna dyma'r brenin yn galw Joab, “O'r gorau! Dyna wna i. Dos i nôl y bachgen Absalom.”

22. Dyma Joab yn ymgrymu â'i wyneb ar lawr o flaen y brenin, a diolch iddo. Meddai wrtho, “Heddiw dw i'n gwybod fod gen ti ffydd yno i, dy was. Ti wedi caniatáu fy nghais i.”

23. Felly dyma Joab yn mynd i lawr i Geshwr a dod ag Absalom yn ôl i Jerwsalem.

24. Ond roedd y brenin wedi dweud, “Rhaid iddo fynd i'w dŷ ei hun. Gaiff e ddim fy ngweld i.” Felly dyma Absalom yn mynd i'w dŷ ei hun, heb gael gweld y brenin.

25. Roedd Absalom yn cael ei ystyried y dyn mwyaf golygus yn Israel. Dyn cryf, iach, gyda'r corff perffaith.

2 Samuel 14