2 Pedr 2:11-15 beibl.net 2015 (BNET)

11. Dydy hyd yn oed angylion Duw, sy'n llawer cryfach a mwy pwerus na nhw, ddim yn eu henllibio nhw wrth eu cyhuddo o flaen Duw.

12. Ond mae'r bobl yma fel anifeiliaid direswm yn dilyn eu greddfau. Maen nhw'n enllibio pethau dŷn nhw ddim yn eu deall. A byddan nhw hefyd yn cael eu dal a'u dinistrio yn y diwedd.

13. Byddan nhw'n cael eu talu yn ôl am y drwg maen nhw wedi ei wneud! Eu syniad nhw o hwyl ydy rhialtwch gwyllt yng ngolau dydd. Maen nhw fel staen ar eich cymdeithas chi, yn ymgolli yn eu pleserau gwag wrth eistedd i wledda gyda chi.

14. Rhyw ydy'r unig beth sydd ar eu meddyliau nhw wrth edrych ar wragedd, ac maen nhw o hyd ac o hyd yn edrych am gyfle i bechu. Maen nhw'n taflu abwyd i ddal y rhai sy'n hawdd i'w camarwain. Maen nhw'n arbenigwyr ar gymryd mantais o bobl. Byddan nhw'n cael eu melltithio!

15. Maen nhw wedi crwydro oddi ar y ffordd iawn a dilyn esiampl Balaam fab Beor oedd wrth ei fodd yn cael ei dalu am wneud drwg.

2 Pedr 2