2 Cronicl 8:15-18 beibl.net 2015 (BNET)

15. Wnaethon nhw ddim anghofio unrhyw un o orchmynion y brenin am yr offeiriaid, y Lefiaid, y trysordai a phopeth arall.

16. Cafodd yr holl waith orchmynodd Solomon ei wneud, o'r diwrnod y cafodd y sylfaeni eu gosod nes roedd y deml wedi ei gorffen. Dyna sut cafodd teml yr ARGLWYDD ei hadeiladu.

17. Yna dyma Solomon yn mynd i Etsion-geber, ac i Elat ar yr arfordir yng ngwlad Edom.

18. A dyma Huram yn anfon llongau a morwyr profiadol i fynd gyda'i weision i Offir, a dod รข tua un deg chwech tunnell o aur o'r fan honno i'r Brenin Solomon.

2 Cronicl 8