2 Cronicl 6:7-17 beibl.net 2015 (BNET)

7. Roedd fy nhad, Dafydd, wir eisiau adeiladu teml i anrhydeddu'r ARGLWYDD, Duw Israel.

8. Ond dwedodd yr ARGLWYDD wrtho, ‘Ti eisiau adeiladu teml i mi, ac mae'r bwriad yn un da.

9. Ond nid ti fydd yn ei hadeiladu. Mab wedi ei eni i ti fydd yn adeiladu teml i mi.’

10. A bellach mae'r ARGLWYDD wedi gwneud beth roedd wedi ei addo. Dw i wedi dod yn frenin ar Israel yn lle fy nhad Dafydd, a dw i wedi adeiladu'r deml yma i anrhydeddu'r ARGLWYDD, Duw Israel.

11. Dw i wedi gosod yno yr Arch sy'n dal yr ymrwymiad wnaeth yr ARGLWYDD gyda phobl Israel.”

12. Yna o flaen pawb, dyma fe'n mynd i sefyll o flaen yr Allor. Cododd ei ddwylo i'r awyr.

13. (Roedd Solomon wedi gwneud llwyfan o bres a'i osod yng nghanol yr iard. Roedd y llwyfan tua dwy fedr sgwâr, a dros fedr o uchder.) Safodd ar y llwyfan, yna mynd ar ei liniau o flaen pobl Israel i gyd a codi ei ddwylo i'r awyr,

14. a gweddïo,“O ARGLWYDD, Duw Israel, does dim Duw tebyg i ti yn y nefoedd na'r ddaear! Ti mor ffyddlon, yn cadw dy ymrwymiad i dy weision, y rhai sydd wir eisiau bod yn ufudd i ti.

15. Ti wedi cadw dy addewid i Dafydd fy nhad. Heddiw, yma, ti wedi gwneud beth wnest ti ei addo.

16. Nawr, ARGLWYDD, Duw Israel, cadw'r addewid arall wnest ti i Dafydd, fy nhad. Dyma wnest ti ddweud: ‘Bydd un o dy deulu di ar orsedd Israel am byth, dim ond i dy ddisgynyddion di fod yn ofalus eu bod yn byw yn ffyddlon i'm cyfraith fel rwyt ti wedi gwneud.’

17. Felly nawr, O ARGLWYDD, Duw Israel, gad i'r hyn wnest ti ei ddweud wrth fy nhad, dy was Dafydd, ddod yn wir.

2 Cronicl 6