6. Gwnaeth ddeg dysgl bres hefyd, a gosod pump ar ochr y de a pump ar ochr y gogledd. Roedd yr offer i gyflwyno'r aberthau oedd i'w llosgi yn cael eu golchi yn y rhain, ond roedd yr offeiriaid yn ymolchi yn y basn mawr oedd yn cael ei alw "Y Môr".
7. Yna dyma fe'n gwneud deg stand aur i ddal lampau, yn unol â'r patrwm, a'u gosod yn y deml. Roedd pump ar yr ochr dde a phump ar y chwith.
8. Ac yna dyma fe'n gwneud deg bwrdd, a gosod y rhain yn y deml, pump ar yr ochr dde a phump ar y chwith. Gwnaeth gant o fowlenni aur hefyd.
9. Wedyn dyma fe'n gwneud iard yr offeiriaid a'r cwrt mawr a'r drysau oedd wedi eu gorchuddio gyda pres.
10. Yna gosododd "Y Môr" i'r de-ddwyrain o'r deml.
11. Huram wnaeth y bwcedi lludw, y rhawiau a'r powlenni taenellu hefyd.Gorffennodd y cwbl o'r gwaith roedd y Brenin Solomon wedi ei roi iddo i'w wneud ar deml Dduw.
12. Roedd wedi gwneud: y ddau biler, y capiau i'w gosod ar ben y ddau biler, dau set o batrymau wedi eu plethu i fynd dros y capiau,
13. pedwar cant o bomgranadau i'w gosod yn ddwy res ar y ddau set o batrymau oedd wedi eu plethu ar y capiau ar ben y pileri.
14. Hefyd y deg troli ddŵr, a'r deg dysgl i fynd ar y deg troli,