2 Cronicl 4:5-9 beibl.net 2015 (BNET)

5. Roedd y basn tua lled dwrn o drwch, ac roedd ei ymyl fel ymyl cwpan siâp blodyn lili. Roedd yn dal tua saith deg pum mil litr o ddŵr.

6. Gwnaeth ddeg dysgl bres hefyd, a gosod pump ar ochr y de a pump ar ochr y gogledd. Roedd yr offer i gyflwyno'r aberthau oedd i'w llosgi yn cael eu golchi yn y rhain, ond roedd yr offeiriaid yn ymolchi yn y basn mawr oedd yn cael ei alw "Y Môr".

7. Yna dyma fe'n gwneud deg stand aur i ddal lampau, yn unol â'r patrwm, a'u gosod yn y deml. Roedd pump ar yr ochr dde a phump ar y chwith.

8. Ac yna dyma fe'n gwneud deg bwrdd, a gosod y rhain yn y deml, pump ar yr ochr dde a phump ar y chwith. Gwnaeth gant o fowlenni aur hefyd.

9. Wedyn dyma fe'n gwneud iard yr offeiriaid a'r cwrt mawr a'r drysau oedd wedi eu gorchuddio gyda pres.

2 Cronicl 4