8. Wna i ddim symud Israel allan o'r tir dw i wedi ei roi i'r hynafiaid, cyn belled â'u bod nhw'n gofalu gwneud beth dw i'n ei orchymyn iddyn nhw, sef cadw'r Gyfraith, y rheolau a'r canllawiau gafodd eu rhoi drwy Moses.”
9. Ond wnaethon nhw ddim gwrando. Ac roedd Manasse'n eu harwain nhw i wneud mwy o ddrwg na'r bobloedd roedd yr ARGLWYDD wedi eu gyrru allan o flaen Israel!
10. Roedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio Manasse a'i bobl, ond doedden nhw'n cymryd dim sylw o gwbl.
11. Felly dyma'r ARGLWYDD yn dod ag arweinwyr byddin Asyria yn ei erbyn. Dyma nhw'n dal Manasse, rhoi bachyn yn ei drwyn a'i roi mewn cadwyni pres, a mynd ag e yn gaeth i Babilon.
12. Yng nghanol y creisis dyma fe'n gweddïo ar yr ARGLWYDD ei Dduw, ac edifarhau go iawn o flaen Duw ei hynafiaid.
13. Clywodd yr ARGLWYDD ei weddi a gwrando ar ei gais, a dod ag e'n ôl i fod yn frenin yn Jerwsalem. A dyna sut daeth Manasse i ddeall mai'r ARGLWYDD oedd Dduw.
14. Wedi hyn dyma Manasse yn ailadeiladu wal allanol Dinas Dafydd, o'r gorllewin i ddyffryn Gihon at Giât y Pysgod ac yna o gwmpas y terasau. Roedd hi'n wal uchel iawn. Gosododd swyddogion milwrol yn holl drefi amddiffynnol Jwda hefyd.