2 Cronicl 33:11-24 beibl.net 2015 (BNET)

11. Felly dyma'r ARGLWYDD yn dod ag arweinwyr byddin Asyria yn ei erbyn. Dyma nhw'n dal Manasse, rhoi bachyn yn ei drwyn a'i roi mewn cadwyni pres, a mynd ag e yn gaeth i Babilon.

12. Yng nghanol y creisis dyma fe'n gweddïo ar yr ARGLWYDD ei Dduw, ac edifarhau go iawn o flaen Duw ei hynafiaid.

13. Clywodd yr ARGLWYDD ei weddi a gwrando ar ei gais, a dod ag e'n ôl i fod yn frenin yn Jerwsalem. A dyna sut daeth Manasse i ddeall mai'r ARGLWYDD oedd Dduw.

14. Wedi hyn dyma Manasse yn ailadeiladu wal allanol Dinas Dafydd, o'r gorllewin i ddyffryn Gihon at Giât y Pysgod ac yna o gwmpas y terasau. Roedd hi'n wal uchel iawn. Gosododd swyddogion milwrol yn holl drefi amddiffynnol Jwda hefyd.

15. Yna dyma fe'n cael gwared â'r duwiau paganaidd a'r ddelw honno o deml yr ARGLWYDD, a'r holl allorau roedd e wedi eu hadeiladu ar fryn y deml ac yn Jerwsalem. Taflodd nhw allan o'r ddinas,

16. ac yna atgyweirio allor yr ARGLWYDD a chyflwyno arni offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Yna dyma fe'n gorchymyn fod pobl Jwda i addoli'r ARGLWYDD, Duw Israel.

17. Roedd y bobl yn dal i aberthu ar yr allorau lleol, ond dim ond i'r ARGLWYDD eu Duw.

18. Mae gweddill hanes Manasse, gan gynnwys ei weddi ar Dduw, a beth roedd y proffwydi wedi ei ddweud wrtho ar ran yr ARGLWYDD, Duw Israel, i'w gweld yn Hanes Brenhinoedd Israel.

19. Mae Negeseuon y Proffwydi hefyd yn cynnwys ei weddi a sut wnaeth Duw ymateb, cofnod o'i bechodau a'r holl bethau drwg wnaeth e, a lleoliad yr allorau lleol a polion y dduwies Ashera a'r delwau cerrig gododd e cyn iddo gyfaddef ei fai.

20. Pan fuodd Manasse farw cafodd ei gladdu yn ei balas. A dyma Amon ei fab yn dod yn frenin yn ei le.

21. Roedd Amon yn ddau ddeg dau pan ddaeth yn frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am ddwy flynedd.

22. Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yr un fath â'i dad Manasse. Roedd yn aberthu i'r holl ddelwau cerrig roedd ei dad wedi eu gwneud, ac yn eu haddoli.

23. A wnaeth Amon ddim troi yn ôl at yr ARGLWYDD fel ei dad. Gwnaeth fwy a mwy o bethau drwg.

24. Yna dyma rai o'i swyddogion yn cynllwyn yn ei erbyn a'i ladd yn ei balas.

2 Cronicl 33