2 Cronicl 32:26-33 beibl.net 2015 (BNET)

26. Ond ar ôl hynny roedd Heseceia'n sori am iddo fod mor falch, a phobl Jerwsalem hefyd. Felly doedd yr ARGLWYDD ddim yn ddig hefo nhw wedyn tra roedd Heseceia'n dal yn fyw.

27. Roedd Heseceia'n gyfoethog iawn ac yn cael ei barchu'n fawr. Adeiladodd stordai i gadw ei holl eiddo – arian, aur, gemau gwerthfawr, perlysiau, tariannau a phob math o bethau gwerthfawr eraill.

28. Adeiladodd ysguboriau i ddal y gwenith, y sudd grawnwin a'r olew; beudai i'r gwahanol anifeiliaid a chorlannau i'r defaid a'r geifr.

29. Adeiladodd drefi lawer, a phrynu nifer fawr o ddefaid, geifr a gwartheg hefyd. Roedd Duw wedi ei wneud e'n hynod o gyfoethog.

30. Heseceia hefyd gaeodd darddiad uchaf nant Gihon a chyfeirio'r dŵr i lawr i Ddinas Dafydd yn y gorllewin. Roedd Heseceia'n llwyddiannus beth bynnag roedd e'n wneud.

31. Pan anfonodd swyddogion Babilon negeswyr ato i'w holi am yr arwydd oedd wedi digwydd yn y wlad, dyma'r ARGLWYDD yn gadael llonydd iddo, i'w brofi a gweld beth oedd ei gymhellion go iawn.

32. Mae gweddill hanes Heseceia, a'r pethau da wnaeth e i'w gweld yng ngweledigaeth y proffwyd Eseia fab Amos yn sgrôl Hanes Brenhinoedd Israel.

33. Pan fu Heseceia farw, dyma nhw'n ei gladdu yn rhan bwysicaf y fynwent i ddisgynyddion Dafydd. Roedd pobl Jwda a Jerwsalem yno i'w anrhydeddu pan gafodd ei gladdu. A dyma Manasse, ei fab, yn dod yn frenin yn ei le.

2 Cronicl 32