2 Cronicl 32:1-18 beibl.net 2015 (BNET)

1. Ar ôl i Heseceia fod mor ffyddlon yn gwneud y pethau yma, dyma Senacherib, brenin Asyria yn ymosod ar Jwda. Dyma fe'n gwersylla o gwmpas y trefi amddiffynnol gyda'r bwriad o'u dal nhw.

2. Pan welodd Heseceia fod Senacherib yn bwriadu ymosod ar Jerwsalem,

3. dyma fe'n cyfarfod gyda'i swyddogion a'i arweinwyr milwrol a penderfynu cau'r ffynhonnau dŵr oedd tu allan i'r ddinas.

4. Daeth tyrfa o weithwyr at ei gilydd i fynd ati i gau'r ffynhonnau i gyd, a'r nant oedd yn rhedeg trwy ganol y wlad. “Pam ddylai brenhinoedd Asyria gael digon o ddŵr pan maen nhw'n dod yma?” medden nhw.

5. Wedyn dyma'r brenin Heseceia yn cryfhau'r amddiffynfeydd trwy drwsio'r waliau oedd wedi cwympo, codi tyrau amddiffynnol, adeiladu ail wal ar yr ochr allan, a chryfhau terasau dinas Dafydd. Gorchmynnodd wneud llawer iawn mwy o arfau a thariannau hefyd.

6. Yna dyma fe'n penodi swyddogion milwrol dros y fyddin a'u casglu at ei gilydd yn y sgwâr o flaen giât y ddinas. A dyma fe'n eu hannog nhw a dweud,

7. “Byddwch yn gryf a dewr! Peidiwch bod ag ofn a panicio am fod brenin Asyria a'i fyddin ar eu ffordd. Mae yna Un gyda ni sy'n gryfach na'r rhai sydd gyda fe.

8. Dim ond cryfder dynol sydd ganddo fe, ond mae'r ARGLWYDD ein Duw gyda ni i'n helpu ni ac i ymladd ein brwydrau!” Roedd pawb yn teimlo'n well ar ôl clywed geiriau'r brenin.

9. Pan oedd Senacherib, brenin Asyria, a'i fyddin yn ymosod ar Lachish, dyma fe'n anfon ei weision i Jerwsalem gyda neges i Heseceia brenin Jwda a phawb oedd yn byw yn y ddinas. Dyma oedd y neges:

10. “Mae Senacherib brenin Asyria yn dweud, ‘Dw i wedi amgylchynu Jerwsalem. Beth sy'n eich gwneud chi mor siŵr y byddwch chi'n iawn?

11. “Bydd yr ARGLWYDD ein Duw yn ein hachub ni o afael brenin Asyria,” meddai Heseceia. Ond mae e'n eich twyllo chi. Byddwch yn marw o newyn a syched!

12. Onid ydy Heseceia wedi cael gwared â'i ganolfannau addoli lleol a'i allorau e, a dweud wrth bobl Jwda mai dim ond wrth un allor maen nhw i fod i addoli?

13. Ydych chi ddim yn sylweddoli beth dw i a'm hynafiaid wedi ei wneud i'r holl wledydd eraill? Wnaeth duwiau'r gwledydd hynny fy rhwystro i rhag cymryd eu tiroedd nhw?

14. Pa un o dduwiau'r gwledydd gafodd eu dinistrio gan fy hynafiaid wnaeth lwyddo i achub eu pobl o'm gafael i? Beth sy'n gwneud i chi feddwl y bydd eich Duw chi yn gwneud hynny?

15. Felly peidiwch gadael i Heseceia eich twyllo a'ch camarwain chi. Peidiwch â'i gredu e. Wnaeth dim un o dduwiau'r gwledydd a'r teyrnasoedd eraill achub eu pobl o'n gafael ni. Felly pa obaith sydd gan eich duwiau chi o wneud hynny?’”

16. Aeth gweision Senacherib ymlaen i ddweud llawer mwy o bethau tebyg yn erbyn yr ARGLWYDD Dduw a'i was Heseceia.

17. Roedd Senacherib wedi ysgrifennu pethau oedd yn gwneud hwyl am ben yr ARGLWYDD, Duw Israel, ac yn ei sarhau. “Doedd duwiau y gwledydd eraill ddim yn gallu achub eu pobl o'm gafael i. A fydd duw Heseceia ddim yn gallu achub ei bobl e chwaith.”

18. Yna dyma'r negeswyr yn gweiddi'n uchel yn Hebraeg ar bobl Jerwsalem oedd ar y waliau. Y bwriad oedd eu dychryn nhw, fel bod Asyria'n gallu cymryd y ddinas.

2 Cronicl 32