2 Cronicl 3:4-15 beibl.net 2015 (BNET)

4. Roedd y cyntedd o flaen y deml yn naw metr o hyd, yn erbyn ffrynt y deml, ac roedd yn naw metr o uchder. Roedd tu mewn yr ystafell wedi ei gorchuddio gydag aur pur.

5. Rhoddodd baneli o goed pinwydd ar waliau mewnol y brif neuadd, a gorchuddio'r cwbl gydag aur pur wedi ei addurno gyda coed palmwydd a cadwyni.

6. Roedd y deml wedi ei haddurno gyda meini gwerthfawr, ac aur o ParfaƮm

7. i orchuddio trawstiau'r to, y rhiniogau, y waliau a'r drysau. Roedd ceriwbiaid wedi eu cerfio yn addurno'r waliau.

8. Gwnaeth y cysegr mwyaf sanctaidd yn naw metr o hyd a naw metr o led, a'i orchuddio gyda 20 tunnell o aur pur.

9. Roedd yr hoelion aur yn pwyso pum cant saith deg gram yr un. Ac roedd wedi gorchuddio'r ystafelloedd uchaf gydag aur hefyd.

10. Yna yn y cysegr mwyaf sanctaidd gwnaeth ddau geriwb a'i gorchuddio nhw gydag aur.

11. Roedd adenydd y ddau geriwb yn ymestyn 9 metr ar draws. Roedd un o adenydd y ceriwb cyntaf yn cyffwrdd wal y deml, ac adenydd y ddau geriwb yn cyffwrdd ei gilydd yn y canol.

12. Wedyn roedd aden arall yr ail geriwb yn cyffwrdd y wal yr ochr arall i'r deml.

13. Roedd yr adenydd gyda'i gilydd yn ymestyn naw metr ar draws. Roedden nhw'n sefyll yn syth, ac yn wynebu at i mewn.

14. Gwnaeth len o ddefnydd glas, porffor, coch a lliain main, gyda lluniau o geriwbiaid wedi ei frodio arno.

15. O flaen y deml gwnaeth ddau biler oedd yn un deg chwech metr o uchder, gyda cap oedd dros ddau fetr o uchder ar dop y ddau.

2 Cronicl 3