2 Cronicl 3:3-9 beibl.net 2015 (BNET)

3. A dyma fesuriadau sylfaeni'r Deml roedd Solomon yn ei hadeiladu: dau ddeg saith metr o hyd a naw metr o led (yr hen fesuriadau oedd yn cael eu defnyddio.)

4. Roedd y cyntedd o flaen y deml yn naw metr o hyd, yn erbyn ffrynt y deml, ac roedd yn naw metr o uchder. Roedd tu mewn yr ystafell wedi ei gorchuddio gydag aur pur.

5. Rhoddodd baneli o goed pinwydd ar waliau mewnol y brif neuadd, a gorchuddio'r cwbl gydag aur pur wedi ei addurno gyda coed palmwydd a cadwyni.

6. Roedd y deml wedi ei haddurno gyda meini gwerthfawr, ac aur o ParfaƮm

7. i orchuddio trawstiau'r to, y rhiniogau, y waliau a'r drysau. Roedd ceriwbiaid wedi eu cerfio yn addurno'r waliau.

8. Gwnaeth y cysegr mwyaf sanctaidd yn naw metr o hyd a naw metr o led, a'i orchuddio gyda 20 tunnell o aur pur.

9. Roedd yr hoelion aur yn pwyso pum cant saith deg gram yr un. Ac roedd wedi gorchuddio'r ystafelloedd uchaf gydag aur hefyd.

2 Cronicl 3