2 Cronicl 29:32-36 beibl.net 2015 (BNET)

32. Dyma faint o anifeiliaid gafodd eu rhoi gan y gynulleidfa: 70 tarw, 100 o hyrddod a 200 o ddefaid yn offrymau i'w llosgi.

33. Roedd 600 o deirw a 3,000 o ddefaid eraill wedi cael eu rhoi,

34. ond doedd dim digon o offeiriaid i'w blingo nhw i gyd. Felly roedd rhaid i'r Lefiaid eu helpu nhw i orffen y gwaith nes bod digon o offeiriaid wedi mynd trwy'r ddefod o buro eu hunain. (Roedd y Lefiaid wedi bod yn fwy gofalus i fynd trwy'r defodau na'r offeiriaid.)

35. Yn ogystal รข'r anifeiliaid i'w llosgi, roedd yna lawer iawn o fraster o'r offrymau diolch, a hefyd yr offrymau o ddiod oedd i fynd gyda pob offrwm i'w losgi.Felly dyma nhw'n ailddechrau addoli'r ARGLWYDD yn y deml.

36. Ac roedd Heseceia a'r bobl i gyd yn dathlu fod Duw wedi galluogi'r cwbl i ddigwydd mor gyflym.

2 Cronicl 29