22. Felly dyma'r offeiriaid yn lladd y teirw a sblasio'r gwaed o gwmpas yr allor. Yna gwneud yr un peth gyda'r hyrddod a'r ŵyn.
23. Yna'n olaf dyma nhw'n dod â'r bwch geifr (oedd i fod yn offrwm i lanhau o bechod) at y brenin a'r bobl eraill oedd yno iddyn nhw osod eu dwylo ar ben y geifr.
24. Wedyn dyma'r offeiriaid yn eu lladd a rhoi'r gwaed ar yr allor yn offrwm dros bechodau Israel gyfan. Roedd y brenin wedi dweud fod yr offrymau i'w llosgi a'r aberthau dros bechodau Israel gyfan.
25. Yna dyma'r Brenin Heseceia yn gosod y Lefiaid yn eu lle yn nheml yr ARGLWYDD gyda symbalau, nablau a thelynau, fel roedd y brenin Dafydd wedi dweud. (Yr ARGLWYDD oedd wedi rhoi'r cyfarwyddiadau yma drwy Gad, proffwyd y brenin a'r proffwyd Nathan).
26. Felly roedd y Lefiaid yn sefyll gydag offerynnau'r Brenin Dafydd, a'r offeiriaid gydag utgyrn.
27. A dyma Heseceia'n rhoi'r gair iddyn nhw losgi'r offrymau ar yr allor. Wrth iddyn nhw ddechrau gwneud hynny dyma ddechrau canu mawl i'r ARGLWYDD i gyfeiliant yr utgyrn ac offerynnau Dafydd, brenin Israel.
28. Roedd y gynulleidfa gyfan yn plygu i lawr i addoli, y cantorion yn canu a'r utgyrn yn seinio nes i'r offrwm orffen llosgi.
29. Ar ôl llosgi'r offrwm dyma'r brenin a phawb oedd gydag e yn plygu i lawr ac addoli.
30. Yna dyma'r Brenin Heseceia yn dweud wrth y Lefiaid am foli'r ARGLWYDD drwy ganu'r caneuon ysgrifennodd y brenin Dafydd a'r proffwyd Asaff. Felly buon nhw wrthi'n canu'n llawen ac yn plygu i lawr ac yn addoli.
31. Yna dyma Heseceia'n dweud, “Nawr dych chi wedi rhoi eich hunain yn llwyr i'r ARGLWYDD. Dewch i aberthu ac i gyflwyno offrymau diolch iddo.” Felly dyma'r bobl yn dod ag aberthau ac offrymau diolch, ac roedd rhai yn awyddus i ddod ag anifeiliaid yn offrymau i'w llosgi hefyd.