8. Cymerodd yr Israeliaid 200,000 o bobl yn gaeth – gwragedd a phlant. Ac roedden nhw wedi dwyn lot fawr o bethau gwerthfawr hefyd a mynd â'r cwbl yn ôl i Samaria.
9. Roedd yna broffwyd i'r ARGLWYDD o'r enw Oded yn Samaria. Dyma fe'n mynd i gyfarfod y fyddin wrth iddyn nhw gyrraedd y ddinas, a dwedodd wrthyn nhw, “Gwrandwch. Roedd yr ARGLWYDD, Duw eich hynafiaid, wedi digio gyda Jwda, a gadawodd i chi eu trechu nhw. Ond dych chi wedi mynd dros ben llestri, a lladd yn gwbl ddidrugaredd, ac mae Duw wedi sylwi.
10. A dyma chi nawr yn bwriadu gorfodi pobl Jwda a Jerwsalem i fod yn gaethweision a caethforynion i chi. Ydych chi hefyd ddim wedi gwneud drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD eich Duw?
11. Nawr, gwrandwch arna i. Anfonwch y rhai dych chi wedi eu cymryd yn gaeth yn ôl adre. Mae'r ARGLWYDD wedi gwylltio gyda chi.”
12. Yna dyma rai o arweinwyr Effraim (sef Asareia fab Iehochanan, Berecheia fab Meshilemoth, Iechisceia fab Shalwm ac Amasa fab Chadlai), yn mynd i wynebu'r rhai oedd wedi dod yn ôl o'r frwydr.
13. Dyma nhw'n dweud wrthyn nhw, “Gewch chi ddim dod â'r bobl gymeroch chi'n gaethion yma, i'n gwneud ni'n euog hefyd. Mae'r ARGLWYDD wedi digio gydag Israel fel y mae hi, heb fynd i wneud pethau'n waeth.”
14. Felly o flaen yr arweinwyr a phawb dyma'r milwyr yn rhyddhau'r bobl oedd wedi eu cymryd yn gaeth, a rhoi popeth roedden nhw wedi ei gymryd yn ysbail yn ôl.
15. Cafodd dynion eu dewis i ofalu am y bobl. Dyma nhw'n ffeindio dillad o'r ysbail i'r rhai oedd yn noeth eu gwisgo, rhoi sandalau, bwyd a diod iddyn nhw, ac olew i'w rwbio ar eu croen. Yna dyma nhw'n rhoi pawb oedd yn methu cerdded ar asynnod, a mynd â nhw i gyd yn ôl at eu perthnasau i Jericho, dinas y palmwydd. Wedyn dyma'r dynion yn dod yn ôl adre i Samaria.
16. Bryd hynny dyma'r Brenin Ahas yn gofyn i frenin Asyria am help.
17. Roedd byddin Edom wedi ymosod ar Jwda unwaith eto a chymryd pobl yn gaeth.
18. Roedd y Philistiaid hefyd wedi bod yn ymosod ar drefi Jwda yn yr iseldir a'r Negef. Roedden nhw wedi concro a setlo yn Beth-shemesh, Aialon a Gederoth, a hefyd Socho, Timna a Gimso a'r pentrefi o'u cwmpas.
19. Roedd yr ARGLWYDD yn dysgu gwers i Jwda am fod Ahas yn anffyddlon i'r ARGLWYDD ac wedi gadael i bethau fynd allan o reolaeth yn llwyr.
20. Daeth Tiglath-pileser brenin Asyria ato, ond gwnaeth bethau'n waeth iddo yn lle ei helpu.
21. Cymerodd Ahas drysorau o'r deml, y palas, ac o dai ei swyddogion a rhoi'r cwbl i frenin Asyria. Ond wnaeth hynny ddim ei helpu e.