2 Cronicl 27 beibl.net 2015 (BNET)

Jotham yn frenin Jwda

1. Roedd Jotham yn ddau ddeg pum mlwydd oed pan ddaeth e'n frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg chwech o flynyddoedd. Enw ei fam oedd Ierwsa, merch Sadoc.

2. Fel ei dad Wseia, roedd yn gwneud beth oedd yn plesio'r ARGLWYDD. (Ond wnaeth e ddim beiddio torri rheolau'r deml fel y gwnaeth ei dad). Ac eto roedd y bobl yn dal i bechu.

3. Jotham adeiladodd Giât Uchaf y deml, a gwnaeth lot o waith yn ailadeiladu'r wal wrth fryn Offel.

4. Adeiladodd drefi ar fryniau Jwda, a chaerau a thyrau amddiffynnol yn y coedwigoedd.

5. Aeth i ryfel yn erbyn brenin yr Ammoniaid, a'i drechu. Talodd yr Ammoniaid dros dair mil cilogram o arian, mil o dunelli o wenith a mil o dunelli o haidd iddo. Roedd rhaid iddyn nhw dalu yr un faint y ddwy flynedd ganlynol hefyd.

6. Aeth Jotham yn fwy a mwy pwerus, am ei fod yn benderfynol ei fod yn mynd i blesio yr ARGLWYDD ei Dduw.

7. Mae gweddill hanes ei deyrnasiad, ei ymgyrchoedd milwrol a'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w gweld yn y sgrôl Brenhinoedd Israel a Jwda.

8. Roedd Jotham yn ddau ddeg pum mlwydd oed pan ddaeth e'n frenin, a bu'n frenin yn Jerwsalem am un deg chwech o flynyddoedd.

9. Pan fu Jotham farw, dyma nhw'n ei gladdu yn Ninas Dafydd. A daeth ei fab Ahas yn frenin yn ei le.