2 Cronicl 23:1-5 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yna yn y seithfed flwyddyn dyma Jehoiada yn mentro gweithredu. Dyma fe'n gwneud cytundeb gyda'r swyddogion milwrol oedd yn arwain unedau o gannoedd: Asareia fab Ierocham, Ishmael fab Iehochanan, Asareia fab Obed, Maaseia fab Adaia, ac Elishaffat fab Sichri.

2. Dyma'r dynion yma yn teithio o gwmpas Jwda ac yn casglu'r Lefiaid i gyd o'r trefi ac arweinwyr claniau Israel. A dyma nhw i gyd yn mynd i Jerwsalem.

3. Dyma'r gynulleidfa yn ymrwymo yn y deml i fod yn ffyddlon i'r brenin. A dyma Jehoiada yn datgan, “Dyma fab y brenin! Bydd e yn teyrnasu fel dwedodd yr ARGLWYDD am ddisgynyddion Dafydd.

4. Dyma dych chi i'w wneud: Bydd un rhan o dair ohonoch chi offeiriaid a Lefiaid sydd ar ddyletswydd ar y Saboth yn gwarchod y drysau.

5. Bydd un rhan o dair yn gwarchod y palas, ac un rhan o dair wrth Giât y Sylfaen. Bydd pawb arall yn mynd i sefyll yn iard teml yr ARGLWYDD.

2 Cronicl 23