6. Roedd yn ymddwyn yr un fath â brenhinoedd Israel ac Ahab a'i deulu. Roedd wedi priodi merch Ahab, ac yn gwneud pethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD.
7. Ond doedd yr ARGLWYDD ddim am ddinistrio teulu Dafydd am ei fod wedi gwneud ymrwymiad i Dafydd. Roedd wedi addo iddo byddai ei linach yn teyrnasu am byth.
8. Yn ei gyfnod e dyma Edom yn gwrthryfela yn erbyn Jwda, a dewis eu brenin eu hunain.
9. Felly dyma Jehoram yn croesi gyda'i swyddogion a'i gerbydau rhyfel. Roedd byddin Edom wedi ei amgylchynu. Dyma fe'n ymosod arnyn nhw ganol nos, ond colli'r frwydr wnaeth e.
10. Mae Edom yn dal i wrthryfela yn erbyn Jwda hyd heddiw.Ac roedd tref Libna hefyd wedi gwrthryfela yr un pryd, ac ennill annibyniaeth. Roedd hyn wedi digwydd am fod Jehoram wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD, Duw ei hynafiaid.
11. Roedd wedi codi allorau lleol ar y bryniau yn Jwda, ac annog pobl Jerwsalem i addoli duwiau eraill. Roedd wedi arwain pobl Jwda ar gyfeiliorn.
12. Dyma Jehoram yn cael llythyr oddi wrth Elias, y proffwyd, yn dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw dy hynafiad Dafydd yn ei ddweud. ‘Dwyt ti ddim wedi ymddwyn yr un fath â Jehosaffat, dy dad ac Asa, brenin Jwda.
13. Ti wedi ymddwyn fel brenhinoedd Israel, ac arwain pobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem i droi cefn ar yr ARGLWYDD, fel mae Ahab a'i deulu wedi gwneud yn Israel. Ac yn waeth na hynny, rwyt ti wedi lladd dy frodyr, ac roedden nhw'n well dynion na ti.
14. Felly mae'r ARGLWYDD yn mynd i daro dy bobl, dy feibion, dy wragedd a phopeth sydd piau ti.