16. Dyma'r ARGLWYDD yn annog y Philistiaid a'r Arabiaid oedd yn byw ar gyrion Dwyrain Affrica i godi yn erbyn Jehoram.
17. Dyma nhw'n ymosod ar Jwda, chwalu'r amddiffynfeydd, dwyn popeth gwerthfawr o balas y brenin, a chymryd ei feibion a'i wragedd yn gaethion. Ahaseia, ei fab ifancaf, oedd yr unig un gafodd ei adael ar ôl.
18. Ar ben hyn i gyd dyma'r ARGLWYDD yn achosi i Jehoram ddioddef o salwch marwol yn ei fol.
19. Ar ôl tua dwy flynedd, dyma'i goluddyn yn disgyn allan oherwydd y salwch, a bu farw mewn poen ofnadwy. Wnaeth ei bobl ddim cynnau tân i'w anrhydeddu, fel roedden nhw'n arfer gwneud gyda'i hynafiaid.