13. Ti wedi ymddwyn fel brenhinoedd Israel, ac arwain pobl Jwda a'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem i droi cefn ar yr ARGLWYDD, fel mae Ahab a'i deulu wedi gwneud yn Israel. Ac yn waeth na hynny, rwyt ti wedi lladd dy frodyr, ac roedden nhw'n well dynion na ti.
14. Felly mae'r ARGLWYDD yn mynd i daro dy bobl, dy feibion, dy wragedd a phopeth sydd piau ti.
15. A byddi di'n mynd yn sâl ac yn dioddef yn hir o afiechyd ar y bol fydd yn mynd o ddrwg i waeth nes bydd dy goluddyn yn dod allan.’”
16. Dyma'r ARGLWYDD yn annog y Philistiaid a'r Arabiaid oedd yn byw ar gyrion Dwyrain Affrica i godi yn erbyn Jehoram.
17. Dyma nhw'n ymosod ar Jwda, chwalu'r amddiffynfeydd, dwyn popeth gwerthfawr o balas y brenin, a chymryd ei feibion a'i wragedd yn gaethion. Ahaseia, ei fab ifancaf, oedd yr unig un gafodd ei adael ar ôl.
18. Ar ben hyn i gyd dyma'r ARGLWYDD yn achosi i Jehoram ddioddef o salwch marwol yn ei fol.
19. Ar ôl tua dwy flynedd, dyma'i goluddyn yn disgyn allan oherwydd y salwch, a bu farw mewn poen ofnadwy. Wnaeth ei bobl ddim cynnau tân i'w anrhydeddu, fel roedden nhw'n arfer gwneud gyda'i hynafiaid.
20. Roedd Jehoram yn dri deg dau pan ddaeth yn frenin, a bu'n teyrnasu yn Jerwsalem am wyth mlynedd. Doedd neb yn ei golli pan fuodd e farw. Cafodd ei gladdu yn Ninas Dafydd, ond dim ym mynwent y brenhinoedd.