1. Pan fuodd Jehosaffat farw, cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn ninas Dafydd. Daeth ei fab Jehoram yn frenin yn ei le.
2. Roedd gan Jehoram frodyr, sef Asareia, Iechiel, Sechareia, Asareiahw, Michael a Sheffateia. Roedd y rhain i gyd yn feibion i Jehosaffat, brenin Jwda.
3. Roedd eu tad wedi rhoi llwythi o anrhegion iddyn nhw o arian, aur a gemau yn ogystal a trefi amddiffynnol yn Jwda. Ond Jehoram gafodd fod yn frenin am mai fe oedd yr hynaf.
4. Ar ôl sefydlu ei hun yn frenin ar deyrnas ei dad, dyma fe'n lladd ei frodyr i gyd a rhai o arweinwyr Jwda hefyd.
5. Roedd Jehoram yn dri deg dau pan ddaeth yn frenin, a bu'n teyrnasu yn Jerwsalem am wyth mlynedd.