2 Cronicl 20:2-6 beibl.net 2015 (BNET)

2. Daeth negeswyr i ddweud wrth Jehosaffat, “Mae yna fyddin enfawr yn dod yn dy erbyn o gyfeiriad Edom, yr ochr draw i'r Môr Marw. Maen nhw yn Chatsason-tamar yn barod!” (Enw arall ar En-gedi oedd Chatsason-tamar).

3. Roedd Jehosaffat wedi dychryn wrth glywed hyn, a dyma fe'n troi at yr ARGLWYDD am arweiniad. Gorchmynnodd fod pawb yn Jwda i ymprydio.

4. Felly dyma bobl Jwda yn dod at ei gilydd i ofyn i'r ARGLWYDD am help. Roedden nhw wedi dod o bob un o drefi Jwda.

5. Safodd Jehosaffat gyda'r dyrfa o flaen yr iard newydd yn y deml.

6. A dyma fe'n gweddïo,“O ARGLWYDD, Duw ein hynafiaid, onid ti ydy'r Duw yn y nefoedd sy'n llywodraethu dros holl deyrnasoedd y byd? Ti'n Dduw nerthol a grymus, a does neb yn gallu sefyll yn dy erbyn.

2 Cronicl 20