7. Yn ystod ei drydedd flwyddyn fel brenin dyma Jehosaffat yn anfon pump o'i swyddogion allan i drefi Jwda i ddysgu'r bobl am Gyfraith Duw. Enwau'r pump oedd Ben-chaïl, Obadeia, Sechareia, Nethanel a Michaia.
8. Ac roedd naw o Lefiaid yn eu helpu, sef Shemaia, Nethaneia, Sebadeia, Asahel, Shemiramoth, Jonathan, Adoneia, Tobeia a Tob-adoneia. Roedd Elishama a Joram yr offeiriaid gyda nhw hefyd.
9. Buon nhw'n teithio o gwmpas trefi Jwda i gyd yn dysgu'r bobl o Lyfr Cyfraith yr ARGLWYDD.
10. Roedd yr ARGLWYDD wedi codi ofn ar y gwledydd o gwmpas Jwda, a doedd neb am fynd i ryfel yn erbyn Jehosaffat.
11. Dyma rai o'r Philistiaid yn dod ag anrhegion a llwyth o arian i Jehosaffat, i dalu teyrnged iddo fel brenin. Daeth yr Arabiaid ag anifeiliaid iddo: 7,700 o hyrddod a 7,700 o fychod geifr.
12. Roedd Jehosaffat yn fwy a mwy pwerus, ac adeiladodd gaerau a chanolfannau storio yn Jwda.
13. Roedd ganddo lot fawr wedi ei gadw yn y canolfannau hynny, a byddin o filwyr profiadol yn Jerwsalem.
14. Roedd y rhain wedi eu rhannu yn ôl eu llwythau fel hyn:Capteiniaid ar unedau o fil o Jwda:Adna – yn gapten ar dri chan mil o filwyr profiadol, dewr.
15. Yna Iehochanan – yn gapten ar ddau gant wyth deg o filoedd.
16. Yna Amaseia fab Sichri (oedd wedi gwirfoddoli i wasanaethu yr ARGLWYDD) – roedd dau gan mil o filwyr profiadol, dewr gydag e.
17. Wedyn o lwyth Benjamin:Eliada, oedd yn filwr profiadol a dewr. Roedd dau gan mil o filwyr gydag e yn cario bwasaeth a tharian.
18. Yna Iehosafad – gyda cant wyth deg o filoedd o filwyr arfog.