2 Cronicl 17:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. Daeth ei fab Jehosaffat yn frenin yn ei le, ac aeth ati i gryfhau'r deyrnas iddi allu gwrthsefyll Israel.

2. Rhoddodd filwyr yn y trefi amddiffynnol a gosod garsiynau drwy wlad Jwda i gyd, ac yn y trefi roedd Asa ei dad wedi ei hennill oddi ar Effraim.

3. Roedd yr ARGLWYDD gyda Jehosaffat am ei fod, ar ddechrau ei deyrnasiad, yn dilyn ffyrdd ei hynafiad Dafydd. Doedd e ddim yn addoli duwiau Baal.

4. Roedd yn addoli Duw ei hynafiaid ac yn cadw ei orchmynion, yn wahanol i bobl Israel.

5. Felly dyma'r ARGLWYDD yn gwneud ei deyrnas yn gadarn. Roedd pobl Jwda i gyd yn dod ag anrhegion i Jehosaffat, a daeth yn gyfoethog iawn, ac roedd parch mawr ato.

6. Roedd yn benderfynol o ddilyn yr ARGLWYDD a chael gwared รข'r holl allorau lleol a polion y dduwies Ashera o Jwda.

2 Cronicl 17