2 Cronicl 14:5-10 beibl.net 2015 (BNET)

5. Dyma fe'n cael gwared â'r holl allorau lleol a'r llestri dal arogldarth o drefi Jwda. Roedd heddwch yn y wlad pan oedd e'n frenin.

6. Dyma Asa'n adeiladu trefi amddiffynnol yn Jwda tra roedd y wlad yn dawel. Doedd dim rhyfel yn y cyfnod hwnnw am fod yr ARGLWYDD wedi rhoi heddwch iddo.

7. Dwedodd Asa wrth bobl Jwda, “Gadewch i ni adeiladu'r trefi yma gyda waliau a thyrau o'u cwmpas, a giatiau gyda barrau i'w cloi. Mae'r wlad yma'n dal gynnon ni am ein bod wedi ceisio yr ARGLWYDD ein Duw. Dŷn ni wedi ei geisio, ac mae e wedi rhoi heddwch i ni o bob cyfeiriad.” Felly dyma nhw'n adeiladu ac roedden nhw'n llwyddiannus iawn.

8. Roedd gan Asa 300,000 o filwyr yn Jwda yn cario tariannau mawr a gwaywffyn. Gyda nhw roedd 280,000 o ddynion o lwyth Benjamin wedi eu harfogi gyda thariannau bach a bwasaeth. Roedden nhw i gyd yn filwr profiadol.

9. Un tro dyma Serach o Cwsh yn Nwyrain Affrica yn ymosod arnyn nhw gyda byddin o filiwn o ddynion a thri chant o gerbydau rhyfel. Wrth iddyn nhw gyrraedd Maresha

10. roedd Asa a'i fyddin yn Nyffryn Seffatha (heb fod yn bell o Maresha) yn paratoi i'w gwrthwynebu.

2 Cronicl 14