10. roedd Asa a'i fyddin yn Nyffryn Seffatha (heb fod yn bell o Maresha) yn paratoi i'w gwrthwynebu.
11. Dyma Asa'n gweddïo ar yr ARGLWYDD ei Dduw: “ARGLWYDD, dim ond ti sy'n gallu helpu'r gwan pan mae byddin enfawr yn dod yn eu herbyn nhw. Helpa ni ARGLWYDD ein Duw, dŷn ni'n dibynnu arnat ti. Dŷn ni wedi dod allan yn erbyn y fyddin enfawr yma ar dy ran di. O ARGLWYDD ein Duw, paid gadael i ddyn ennill yn dy erbyn di.”
12. Felly dyma'r ARGLWYDD yn galluogi'r brenin Asa a byddin Jwda i orchfygu'r fyddin o Cwsh yn Nwyrain Affrica. Dyma'r Affricanwyr yn ffoi
13. gydag Asa a'i fyddin yn mynd ar eu holau cyn belled â Gerar. Cafodd byddin Cwsh ei difa'n llwyr gan yr ARGLWYDD a'i fyddin. A dyma Asa a'i ddynion yn casglu lot fawr o ysbail.
14. Dyma nhw'n concro'r trefi o gwmpas Gerar i gyd, am fod yr ARGLWYDD wedi gwneud i'r rheiny banicio. A dyma filwyr Jwda yn casglu llwythi o bethau gwerthfawr o'r trefi hynny hefyd.
15. A dyma nhw'n ymosod ar bebyll y rhai oedd yn gofalu am yr anifeiliaid, a dwyn llawer iawn o ddefaid a chamelod cyn mynd yn ôl i Jerwsalem.