1. Pan fu farw, cafodd Abeia ei gladdu yn ninas Dafydd. Daeth Asa ei fab yn frenin yn ei le. Pan ddaeth e'n frenin roedd heddwch yn y wlad am ddeg mlynedd.
2. Roedd Asa yn gwneud beth oedd yn dda ac yn plesio'r ARGLWYDD.
3. Dyma fe'n cael gwared â'r allorau paganaidd a'r temlau lleol, malu'r colofnau cysegredig a thorri i lawr bolion y dduwies Ashera.
4. Dyma fe'n dweud wrth bobl Jwda fod rhaid iddyn nhw addoli'r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, a cadw ei ddysgeidiaeth a'i orchmynion.
5. Dyma fe'n cael gwared â'r holl allorau lleol a'r llestri dal arogldarth o drefi Jwda. Roedd heddwch yn y wlad pan oedd e'n frenin.
6. Dyma Asa'n adeiladu trefi amddiffynnol yn Jwda tra roedd y wlad yn dawel. Doedd dim rhyfel yn y cyfnod hwnnw am fod yr ARGLWYDD wedi rhoi heddwch iddo.
7. Dwedodd Asa wrth bobl Jwda, “Gadewch i ni adeiladu'r trefi yma gyda waliau a thyrau o'u cwmpas, a giatiau gyda barrau i'w cloi. Mae'r wlad yma'n dal gynnon ni am ein bod wedi ceisio yr ARGLWYDD ein Duw. Dŷn ni wedi ei geisio, ac mae e wedi rhoi heddwch i ni o bob cyfeiriad.” Felly dyma nhw'n adeiladu ac roedden nhw'n llwyddiannus iawn.