10. Ond ein Duw ni ydy'r ARGLWYDD, a dŷn ni heb droi oddi wrtho. Meibion Aaron ydy'n hoffeiriaid sy'n ei wasanaethu, a'r Lefiaid yn eu helpu.
11. Maen nhw'n llosgi aberthau ac arogldarth persawrus i'r ARGLWYDD bob bore a hwyr. Nhw hefyd sy'n rhoi'r bara i'w osod ar y bwrdd sanctaidd, ac yn cynnau'r lampau ar y ganhwyllbren aur bob gyda'r nos. Dŷn ni'n dal i gadw gorchmynion yr ARGLWYDD ein Duw, ond dych chi wedi troi oddi wrtho.
12. Sylwch, Duw ydy'n capten ni a thrwmpedau ei offeiriaid e sy'n ein galw i ryfel. Bobl Israel, peidiwch ag ymladd yn erbyn Duw eich hynafiaid. Fyddwch chi ddim yn llwyddo.”
13. Dyma Jeroboam yn anfon rhai o'i filwyr i fod yn barod i ymosod o'r tu cefn i fyddin Jwda. Felly tra roedd e'n wynebu Jwda, roedd eraill yn barod i ymosod o'r tu cefn.
14. Dyma filwyr Jwda yn gweld y byddai'n rhaid iddyn nhw ymladd o'r tu blaen a'r tu ôl, a dyma nhw'n galw ar yr ARGLWYDD. Dyma'r offeiriad yn canu'r utgyrn,
15. a dynion Jwda yn rhoi bloedd i ymosod, a dyma Duw yn taro Jeroboam a byddin Israel gyfan o flaen Abeia a byddin Jwda.
16. Dyma fyddin Israel yn ffoi o flaen Jwda, a dyma Duw yn eu rhoi yng ngafael dynion Jwda.
17. Lladdodd Abeia a'i ddynion nifer fawr ohonyn nhw. Roedd pum can mil o ddynion gorau Israel wedi syrthio'n farw.
18. Collodd Israel y frwydr y diwrnod hwnnw, ac ennillodd Jwda am ei bod wedi dibynnu ar yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid.
19. Dyma Abeia yn ymlid ar ôl Jeroboam a chymryd oddi arno drefi Bethel, Ieshana ac Effron a'r pentrefi o'u cwmpas.
20. Wnaeth Jeroboam ddim ennill grym yn ôl yn ystod cyfnod Abeia. Yna dyma'r ARGLWYDD yn ei daro a bu farw.
21. Yn y cyfamser roedd Abeia'n dod yn fwy a mwy pwerus. Roedd ganddo un deg pedair o wragedd, ac roedd yn dad i ddau ddeg dau o feibion ac un deg chwech o ferched.
22. Mae gweddill hanes Abeia, beth wnaeth e a'r pethau ddwedodd e, i'w gweld yn ysgrifau'r proffwyd Ido.