5. Roedd Rehoboam yn byw yn Jerwsalem. Trodd nifer o drefi yn Jwda yn gaerau amddiffynnol:
6. Bethlehem, Etam, Tecoa,
7. Beth-Tswr, Socho, Adwlam,
8. Gath, Maresha, Siff,
9. Adoraim, Lachish, Aseca,
10. Sora, Aialon, a Hebron. Dyma'r trefi amddiffynnol oedd yn Jwda a Benjamin.
11. Dyma fe'n cryfhau'r amddiffynfeydd, gosod swyddogion milwrol yno, ac adeiladu stordai i gadw bwyd, olew olewydd a gwin.
12. Roedd tariannau a gwaywffyn ym mhob un o'r trefi. Gwnaeth nhw'n hollol saff, a dyna sut cadwodd ei afael ar Jwda a Benjamin.
13. Roedd yr offeiriaid a'r Lefiaid o bob rhan o Israel yn ei gefnogi.
14. Roedd y Lefiaid hyd yn oed wedi gadael eu tir a'u heiddo a symud i Jwda ac i Jerwsalem, achos roedd Jeroboam a'i feibion wedi eu rhwystro nhw rhag bod yn offeiriaid i'r ARGLWYDD.
15. Roedd wedi penodi ei offeiriaid ei hun i wasanaethu wrth yr allorau lleol, ac arwain y bobl i addoli gafr-ddemoniaid a'r teirw ifanc roedd e wedi eu gwneud.
16. A dyma bawb o lwythau Israel oedd eisiau addoli'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn dilyn y Lefiaid i Jerwsalem. Yno roedden nhw'n gallu cyflwyno aberthau i'r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid.
17. Roedden nhw'n cryfhau teyrnas Jwda, ac am dair blynedd roedden nhw'n cefnogi Rehoboam fab Solomon. Buon nhw'n cadw gorchmynion Dafydd a Solomon am y tair blynedd.
18. Dyma Rehoboam yn priodi Machalath, oedd yn ferch i Ierimoth (un o feibion Dafydd) ac Abihail (oedd yn ferch i Eliab fab Jesse).
19. Cawson nhw dri o feibion, sef Iewsh, Shemareia a Saham.