2 Cronicl 11:11-23 beibl.net 2015 (BNET)

11. Dyma fe'n cryfhau'r amddiffynfeydd, gosod swyddogion milwrol yno, ac adeiladu stordai i gadw bwyd, olew olewydd a gwin.

12. Roedd tariannau a gwaywffyn ym mhob un o'r trefi. Gwnaeth nhw'n hollol saff, a dyna sut cadwodd ei afael ar Jwda a Benjamin.

13. Roedd yr offeiriaid a'r Lefiaid o bob rhan o Israel yn ei gefnogi.

14. Roedd y Lefiaid hyd yn oed wedi gadael eu tir a'u heiddo a symud i Jwda ac i Jerwsalem, achos roedd Jeroboam a'i feibion wedi eu rhwystro nhw rhag bod yn offeiriaid i'r ARGLWYDD.

15. Roedd wedi penodi ei offeiriaid ei hun i wasanaethu wrth yr allorau lleol, ac arwain y bobl i addoli gafr-ddemoniaid a'r teirw ifanc roedd e wedi eu gwneud.

16. A dyma bawb o lwythau Israel oedd eisiau addoli'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn dilyn y Lefiaid i Jerwsalem. Yno roedden nhw'n gallu cyflwyno aberthau i'r ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid.

17. Roedden nhw'n cryfhau teyrnas Jwda, ac am dair blynedd roedden nhw'n cefnogi Rehoboam fab Solomon. Buon nhw'n cadw gorchmynion Dafydd a Solomon am y tair blynedd.

18. Dyma Rehoboam yn priodi Machalath, oedd yn ferch i Ierimoth (un o feibion Dafydd) ac Abihail (oedd yn ferch i Eliab fab Jesse).

19. Cawson nhw dri o feibion, sef Iewsh, Shemareia a Saham.

20. Yna, ar ei hôl hi, dyma fe'n priodi Maacha, merch Absalom. Dyma hi'n cael plant hefyd, sef Abeia, Attai, Sisa a Shlomith.

21. Roedd Rehoboam yn caru Maacha (merch Absalom) fwy na'i wragedd eraill a'i gariadon. (Roedd ganddo un deg wyth o wragedd a chwe deg o bartneriaid, a cafodd dau ddeg wyth o feibion a chwe deg o ferched.)

22. Dyma Rehoboam yn penodi Abeia, oedd yn fab i Maacha, yn bennaeth ar ei frodyr; roedd e eisiau iddo fod yn frenin ar ei ôl.

23. Yn ddoeth iawn gwnaeth ei feibion i gyd yn gyfrifol am wahanol drefi amddiffynnol drwy Jwda a Benjamin. Dyma fe'n rhoi digon o fwyd iddyn nhw a darparu digon o wragedd ar eu cyfer.

2 Cronicl 11