2 Corinthiaid 7:2-9 beibl.net 2015 (BNET)

2. Derbyniwch ni. Wnaethon ni ddim cam â neb, na gwneud niwed i neb, na chymryd mantais o neb.

3. Dw i ddim yn ceisio gweld bai arnoch chi drwy ddweud hyn. Fel y dwedais i, dych chi'n sbesial iawn yn ein golwg ni. Fydd ein cariad ni ddim llai, doed a ddelo – byw neu farw

4. Mae gen i hyder ynoch chi. Dw i wir yn falch ohonoch chi. Dw i wedi fy nghalonogi'n fawr. Dw i'n wirioneddol hapus er gwaetha'r holl drafferthion.

5. Beth bynnag, pan gyrhaeddon ni dalaith Macedonia chawson ni ddim llonydd wedyn. Roedd trafferthion bob cam o'r ffordd! Gwrthwynebiad pobl o'r tu allan, ac ofnau o'n mewn ni.

6. Ond mae Duw'n cysuro'r rhai sy'n ddigalon, a dyma fe'n ein cysuro ni pan ddaeth Titus aton ni.

7. Roedd yn braf ei weld, ond hefyd i gael deall fel roeddech chi wedi ei gysuro fe. Roedd yn dweud fod gynnoch chi hiraeth amdanon ni, eich bod chi'n sori am beth ddigwyddodd, ac yn wirioneddol awyddus i bethau fod yn iawn rhyngon ni. Roeddwn i'n hapusach fyth wedyn!

8. Dw i ddim yn sori mod i wedi anfon y llythyr, er ei fod wedi'ch brifo chi. Roeddwn i yn sori i ddechrau, wrth weld eich bod chi wedi cael eich brifo. Ond doedd hynny ddim ond dros dro.

9. Felly dw i'n hapus bellach – dim am i chi gael eich gwneud yn drist, ond am fod hynny wedi gwneud i chi newid eich ffyrdd. Dyna'r math o dristwch mae Duw eisiau ei weld, felly wnaethon ni ddim drwg i chi.

2 Corinthiaid 7