2 Corinthiaid 4:5-13 beibl.net 2015 (BNET)

5. Dŷn ni ddim yn siarad amdanon ni'n hunain – dim ond cyhoeddi mai Iesu y Meseia ydy'r Arglwydd. Ein lle ni ydy eich gwasanaethu chi ar ran Iesu.

6. Ac mae'r Duw ddwedodd, “Dw i eisiau i olau ddisgleirio allan o'r tywyllwch,” wedi'n goleuo ni a'n galluogi ni i ddangos fod ysblander Duw ei hun yn disgleirio yn wyneb Iesu y Meseia.

7. Dyma'r trysor mae Duw wedi ei roi i ni. Mae'n cael ei gario gynnon ni sy'n ddim byd ond llestri pridd – ffaith sy'n dangos mai o Dduw mae'r grym anhygoel yma'n dod, dim ohonon ni.

8. Er fod trafferthion yn gwasgu o bob cyfeiriad, dŷn ni ddim wedi cael ein llethu'n llwyr. Dŷn ni'n ansicr weithiau, ond heb anobeithio;

9. yn cael ein herlid, ond dydy Duw ddim wedi'n gadael ni; yn cael ein taro i lawr, ond yn cael ein codi yn ôl ar ein traed bob tro!

10. Wrth ddioddef yn gorfforol dŷn ni'n rhannu rhyw wedd ar farwolaeth Iesu, ond mae hynny er mwyn i fywyd Iesu gael ei weld yn ein cyrff bregus ni.

11. Dŷn ni sy'n fyw bob amser mewn peryg o gael ein lladd fel Iesu, er mwyn i fywyd Iesu gael ei weld yn ein cyrff marwol ni.

12. Rhaid i ni wynebu marwolaeth er mwyn i chi gael bywyd tragwyddol.

13. Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Credais, felly dwedais.” Yr un ysbryd sy'n ein gyrru ni'n ein blaenau. Dŷn ni hefyd wedi credu ac felly'n dweud.

2 Corinthiaid 4