2 Corinthiaid 3:4-12 beibl.net 2015 (BNET)

4. Beth mae'r Meseia wedi ei wneud sy'n ein gwneud ni mor hyderus o flaen Duw.

5. Dŷn ni ddim yn deilwng ynon ni'n hunain i hawlio'r clod am ddim byd – Duw sy'n ein gwneud ni'n deilwng.

6. Mae wedi'n gwneud ni'n deilwng i wasanaethu'r ymrwymiad newydd wnaeth e. Nid cyfraith ysgrifenedig ydy hon, ond ymrwymiad Duw gafodd ei roi gan yr Ysbryd Glân. Mae ceisio cadw at lythyren y ddeddf yn lladd, ond mae'r Ysbryd yn rhoi bywyd.

7. Er bod yr hen drefn (gafodd ei naddu ar garreg) yn arwain i farwolaeth, cafodd ei rhoi gyda'r fath ysblander! Roedd yr Israeliaid yn methu edrych ar wyneb Moses am ei fod yn disgleirio! (Ond roedd yn pylu wrth i amser fynd yn ei flaen).

8. Felly beth am drefn newydd yr Ysbryd? Oni fydd hi'n dod gydag ysblander llawer iawn mwy rhyfeddol?

9. Os oedd y drefn sy'n arwain i farn yn wych, meddyliwch mor anhygoel o wych fydd y drefn newydd sy'n dod â ni i berthynas iawn gyda Duw!

10. Yn wir, dydy beth oedd yn ymddangos mor rhyfeddol ddim yn edrych yn rhyfeddol o gwbl bellach, am fod ysblander y drefn newydd yn disgleirio gymaint mwy llachar!

11. Ac os oedd y drefn oedd yn pylu yn rhyfeddol, meddyliwch mor ffantastig ydy ysblander y drefn sydd i aros!

12. Gan mai dyma dŷn ni'n edrych ymlaen ato, dŷn ni'n gallu cyhoeddi'n neges yn gwbl hyderus.

2 Corinthiaid 3