4. Roedd ysgrifennu'r llythyr atoch chi yn brofiad poenus iawn. Roeddwn i'n ddigalon iawn, a bues i'n wylo'n hir uwch ei ben. Doedd gen i ddim eisiau eich gwneud chi'n drist, dim ond eisiau i chi weld cymaint dw i'n eich caru chi!
5. Mae un dyn arbennig wedi achosi tristwch. Mae wedi gwneud hynny dim yn gymaint i mi, ond i bron bob un ohonoch chi (er, dw i ddim eisiau gwneud i'r peth swnio'n waeth nag y mae.)
6. Mae beth benderfynodd y mwyafrif ohonoch chi yn yr eglwys ei wneud i'w ddisgyblu wedi mynd ymlaen yn ddigon hir.
7. Erbyn hyn mae'n bryd i chi faddau iddo a'i helpu i droi yn ôl. Dych chi ddim eisiau iddo gael ei lethu'n llwyr a suddo i anobaith.
8. Felly dw i am eich annog chi i ddangos iddo unwaith eto eich bod chi'n dal i'w garu.
9. Roeddwn i'n anfon y llythyr atoch chi i weld a fyddech yn pasio'r prawf a bod yn gwbl ufudd.
10. Dw i'n maddau i bwy bynnag dych chi'n maddau iddo. Dw i eisoes wedi maddau iddo er eich mwyn chi – os oedd rhywbeth i mi i'w faddau. Mae'r Meseia ei hun yn gwybod fy mod i wedi gwneud hynny.
11. Dŷn ni ddim am i Satan fanteisio ar y sefyllfa! Dŷn ni'n gwybod yn iawn am ei gastiau e!
12. Pan gyrhaeddais i Troas i gyhoeddi'r newyddion da am y Meseia yno, ches i ddim llonydd. Er bod yno gyfle gwych i weithio dros yr Arglwydd,
13. doeddwn i ddim yn dawel fy meddwl am fod fy ffrind Titus ddim wedi cyrraedd yno fel roeddwn i'n disgwyl. Felly dyma fi'n ffarwelio â nhw, a mynd ymlaen i dalaith Macedonia i chwilio amdano.
14. Ond diolch i Dduw, mae'r gwaith yn dal i fynd yn ei flaen. Dŷn ni'n cerdded ym mhrosesiwn buddugoliaeth y Meseia, ac mae arogl y persawr o gael nabod Duw yn lledu drwy'r byd i gyd!
15. Ydyn, dŷn ni fel arogl hyfryd yn cael ei offrymu i Dduw gan y Meseia ei hun. Mae pawb yn ei arogli – y rhai sy'n cael eu hachub a'r rhai sydd ar eu ffordd i ddistryw.