2 Corinthiaid 10:1-10 beibl.net 2015 (BNET)

1. Felly dyma fi, Paul, yn apelio atoch chi yn addfwyn ac yn garedig fel y Meseia ei hun – ie fi, yr un maen nhw'n dweud sy'n ‛llwfr‛ pan dw i wyneb yn wyneb â chi, ond mor ‛galed‛ pan dw i'n bell i ffwrdd!

2. Pan fydda i'n dod acw, dw i'n erfyn arnoch chi, peidiwch gwneud i mi fod yn galed gyda chi fel dw i'n disgwyl gorfod bod gyda'r rhai hynny sy'n dweud ein bod ni'n byw fel pobl y byd, sydd ddim yn credu!

3. Dŷn ni'n byw yn y byd yn sicr, ond dŷn ni ddim yn ymladd ein brwydrau fel mae'r byd yn gwneud.

4. Dŷn ni ddim yn defnyddio arfau'r byd i ymladd. Fel arall yn hollol! – mae'n harfau ni yn rhai grymus, a Duw sy'n rhoi'r nerth i ni chwalu'r cestyll mae'r gelyn yn eu hamddiffyn.

5. Dŷn ni'n chwalu dadleuon a'r syniadau balch sy'n rhwystro pobl rhag dod i nabod Duw. Dŷn ni'n rhwymo'r syniadau hynny, ac yn arwain pobl i fod yn ufudd i'r Meseia.

6. Pan fyddwch chi'n ufudd eto, byddwn ni'n barod wedyn i gosbi pawb sy'n aros yn anufudd.

7. Dych chi'n edrych ar bethau'n rhy arwynebol! Dylai'r rhai sy'n honni bod ganddyn nhw berthynas sbesial gyda'r Meseia ystyried hyn: mae'n perthynas ni gyda'r Meseia mor real â'u perthynas nhw.

8. Hyd yn oed petawn i'n brolio braidd gormod am yr awdurdod mae'r Arglwydd Iesu wedi ei roi i ni does gen i ddim cywilydd o'r peth. Awdurdod i'ch cryfhau chi ydy e, ddim i chwalu'ch ffydd chi.

9. Dw i ddim yn ceisio'ch dychryn chi yn fy llythyrau.

10. Dw i'n gwybod yn iawn beth maen nhw'n ei ddweud: “Mae'n galed ac yn gas yn ei lythyrau, ond rhyw greadur bach gwan ac eiddil ydy e go iawn, ac mae'n siaradwr anobeithiol!”

2 Corinthiaid 10