27. Pan welodd Ahaseia, brenin Jwda, beth ddigwyddodd, dyma fe'n ffoi i gyfeiriad Beth-haggan. A dyma Jehw yn mynd ar ei ôl a gorchymyn i'w filwyr, “Saethwch e hefyd!” A dyma nhw'n ei saethu yn ei gerbyd ar yr allt sy'n mynd i fyny i Gwr, wrth ymyl Ibleam. Ond llwyddodd i ddianc i Megido, a dyna lle buodd e farw.
28. Aeth ei weision a'r corff yn ôl i Jerwsalem, a'i gladdu yn ei fedd gyda'i hynafiaid yn Ninas Dafydd.
29. Roedd Joram wedi bod yn frenin Israel am un deg un o flynyddoedd pan gafodd Ahaseia ei wneud yn frenin ar Jwda.
30. Dyma Jehw yn mynd i Jesreel. Pan glywodd Jesebel ei fod yn dod dyma hi'n rhoi colur ar ei llygaid, gwneud ei gwallt a pwyso allan o'r ffenest.
31. Pan gyrhaeddodd Jehw wrth giât y dref, dyma hi'n galw arno, “Wyt ti'n dod yn heddychlon? Ti ddim gwell na Simri, wnaeth lofruddio ei feistr!”
32. Dyma Jehw yn edrych i fyny a gofyn, “Pwy sydd ar fy ochr i? Rhywun?” A dyma ddau neu dri o swyddogion y palas yn edrych i lawr arno.