21. Yna dyma Joram yn dweud, “Gwnewch y cerbyd yn barod i mi.” Pan oedden nhw wedi gwneud hynny, dyma Joram, brenin Israel, ac Ahaseia, brenin Jwda, yn mynd allan yn eu cerbydau eu hunain i gyfarfod Jehw. Dyma nhw'n cwrdd ar y darn o dir oedd yn arfer perthyn i Naboth o Jesreel.
22. A dyma Joram yn gofyn i Jehw, “Ydy popeth yn iawn, Jehw?”Ond dyma Jehw yn ateb, “Fydd pethau byth yn iawn tra mae dy fam di, Jesebel, yn gwthio pobl i addoli eilunod a dewino!”
23. Yna dyma Joram yn troi ei gerbyd i geisio dianc, ac yn gweiddi ar Ahaseia, “Mae'n frad, Ahaseia!”
24. Ond dyma Jehw yn anelu ei fwa a saethu Joram rhwng ei ysgwyddau. Aeth y saeth drwy ei galon, a syrthiodd yn farw yn ei gerbyd.
25. Wedyn dyma Jehw yn dweud wrth Bidcar, ei is-gapten, “Cymer y corff a'i daflu ar y darn tir oedd yn arfer perthyn i Naboth o Jesreel. Wyt ti'n cofio? Pan oedd y ddau ohonon ni'n gwasanaethu Ahab ei dad, roedd yr ARGLWYDD wedi cyhoeddi hyn yn ei erbyn:
26. ‘Yn wir dw i wedi gweld gwaed Naboth a'i feibion, ddoe,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘A bydda i'n talu'n ôl i ti ar yr union ddarn yma o dir.’ Felly cymer y corff a'i daflu ar y darn tir yna fel dwedodd yr ARGLWYDD.”
27. Pan welodd Ahaseia, brenin Jwda, beth ddigwyddodd, dyma fe'n ffoi i gyfeiriad Beth-haggan. A dyma Jehw yn mynd ar ei ôl a gorchymyn i'w filwyr, “Saethwch e hefyd!” A dyma nhw'n ei saethu yn ei gerbyd ar yr allt sy'n mynd i fyny i Gwr, wrth ymyl Ibleam. Ond llwyddodd i ddianc i Megido, a dyna lle buodd e farw.
28. Aeth ei weision a'r corff yn ôl i Jerwsalem, a'i gladdu yn ei fedd gyda'i hynafiaid yn Ninas Dafydd.
29. Roedd Joram wedi bod yn frenin Israel am un deg un o flynyddoedd pan gafodd Ahaseia ei wneud yn frenin ar Jwda.