16. Roedd Joram, mab Ahab, wedi bod yn frenin ar Israel ers pum mlynedd pan gafodd Jehoram, mab Jehosaffat, ei wneud yn frenin ar Jwda.
17. Roedd yn dri deg dau pan ddaeth yn frenin, a bu'n teyrnasu yn Jerwsalem am wyth mlynedd.
18. Ond roedd yn ymddwyn yr un fath â brenhinoedd Israel ac Ahab a'i deulu. Roedd wedi priodi merch Ahab, ac yn gwneud pethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD.
19. Ond doedd yr ARGLWYDD ddim am ddinistrio Jwda o achos ei was Dafydd. Roedd wedi addo iddo byddai ei linach yn teyrnasu am byth.
20. Yn ei gyfnod e dyma Edom yn gwrthryfela yn erbyn Jwda, a dewis eu brenin eu hunain.
21. Felly dyma Jehoram yn croesi i Sair gyda'i gerbydau rhyfel. Roedd byddin Edom wedi ei amgylchynu. Dyma fe'n ymosod arnyn nhw ganol nos, ond colli'r frwydr wnaeth e, a dyma'i fyddin yn ffoi adre.
22. Mae Edom yn dal i wrthryfela yn erbyn Jwda hyd heddiw. Ac roedd tref Libna hefyd wedi gwrthryfela yr un pryd.
23. Mae gweddill hanes Jehoram, a cofnod o'r cwbl wnaeth e ei gyflawni, i'w weld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda.
24. Pan fuodd Jehoram farw cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn Ninas Dafydd, a dyma'i fab, Ahaseia, yn dod yn frenin yn ei le.
25. Roedd Joram, mab Ahab, wedi bod yn frenin ar Israel am un deg dwy o flynyddoedd pan gafodd Ahaseia, mab Jehoram, ei wneud yn frenin ar Jwda.
26. Roedd Ahaseia yn ddau ddeg dau pan ddaeth yn frenin ar Jwda, a bu'n frenin am flwyddyn. Ei fam oedd Athaleia, wyres Omri, brenin Israel.
27. Roedd yn ymddwyn fel Ahab a'i deulu. Roedd yn perthyn iddo trwy briodas, ac yn gwneud pethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD.
28. Ymunodd gyda Joram, mab Ahab, i ryfela yn erbyn Hasael, brenin Syria, yn Ramoth-gilead. Cafodd Joram ei anafu yn y frwydr,